Dwyn hunaniaeth a thwyll hunaniaeth

Mae dwyn hunaniaeth yn digwydd pan fydd rhywun yn dwyn eich gwybodaeth bersonol a'ch/neu'ch eiddo er mwyn iddynt ddefnyddio eich hunaniaeth. Weithiau maent yn gwneud hyn er mwyn eu buddiannau ariannol eu hun. Gelwir hyn yn dwyll hunaniaeth. Efallai na fyddwch hyd yn oed yn sylweddoli fod y twyll wedi digwydd tan ar ôl y digwyddiad pan fyddwch yn derbyn bil neu'n cael trafferth trefnu credyd. Yn wir, mae Experian, yr asiantaeth gredyd, wedi darganfod ei bod yn cymryd 292 diwrnod ar gyfartaledd i sylweddoli eich bod wedi bod yn ddioddefwr.

Felly pam mae'r math hwn o dwyll ar gynnydd? Mae astudiaeth ddiweddar wedi dangos...

  • Fod 44% o Brydeinwyr yn dal i beidio â rhwygo dogfennau sy'n cynnwys gwybodaeth sensitif yn ddarnau mân cyn eu gosod yn y bin
  • Mai 54% yn unig o drigolion y DU sy'n gwirio eu datganiadau ariannol yn rheolaidd
  • Fod 79% o wastraff t? yn cynnwys o leiaf un eitem neu'n fwy a allai gynorthwyo twyllwyr i ddwyn hunaniaeth

Sut mae hunaniaeth pobl yn cael eu dwyn?

Dwyn - Gellir cael gwybodaeth bersonol drwy ddwyn pwrs arian rhywun neu drwy fwrgleriaeth

Galw Diwahoddiad - Pobl yn galw heibio, gan esgus fod yn fusnesau go iawn ac yna'n twyllo'r preswylydd i roi ei fanylion personol

Hacio - Mae twyllwyr yn defnyddio technoleg i hacio i mewn i gyfrifiaduron a ffonau clyfar lle maent yn gallu cael mynediad i ddigonedd o wybodaeth

Gwe-rwydo - mae troseddwyr yn anfon e-byst yn esgus eu bod o fusnesau ac yn gofyn i dderbynwyr glicio ar ddolen. Mae hyn wedyn yn eu galluogi i gael mynediad i'w gwybodaeth

Mynediad diawdurdod at ddata - Mae gwybodaeth yn cael ei dwyn oddi wrth gwmnïau/darparwyr gwasanaeth

Sut i ddiogelu eich hun rhag y math hwn o dwyll?

  • Dylech bob amser rwygo dogfennau fel cyfriflenni banc, biliau cyfleustodau, ffurflenni cais, derbynebau cerdyn a llythyrau yn ddarnau mân
  • Peidiwch byth â datgelu gwybodaeth bersonol dros y ffôn. Os ydych yn amau, gofynnwch am enw'r galwr, ei rhif ffôn ac enw'r sefydliad a gwiriwch y manylion cyn ei ffonio nôl
  • Peidiwch byth â chlicio ar ddolen o fewn e-bost, hyd yn oed os yw'r e-bost yn ymddangos fel un go iawn. Mae twyllwyr yn aml yn anfon e-byst yn esgus eu bod o amryw o gwmnïau, gan gynnwys banciau, yn gofyn i dderbynwyr ailosod eu cyfrinair ar-lein.
  • Sicrhewch eich bod yn creu cyfrineiriau cryf ar eich cyfrifon. Defnyddiwch gymysgedd o brif lythrennau, llythrennau bach, rhifau a symbolau. Peidiwch byth â defnyddio 'password' neu 123456 fel eich cyfrinair
  • Cadwch lygad ar eich adroddiad credyd, fel eich bod yn gallu dod o hyd i unrhyw weithgaredd anarferol, fel cyfrifau wedi eu hagor yn eich enw
  • Os ydych yn symud t?, sicrhewch eich bod yn ailgyfeirio eich post am o leiaf chwe mis

Beth ddylech ei wneud os ydych wedi bod yn ddioddefwr?

  • Cysylltwch â'r holl wahanol gwmnïau y mae gennych gyfrifon â nhw, fel cyfrifon banc, cardiau credyd, cardiau siop, darparwyr ffonau a chyfleustodau a rhowch wybod iddynt. Byddant yn monitro eich cyfrifon am weithgaredd anarferol.
  • Mae asiantaethau credyd, fel Equifax ac Experian yn gallu cynnig camau i ddatrys y sefyllfa a'i hatal rhag digwydd eto
  • Cysylltwch â gwasanaeth Atal Twyll y DU, CIFAS (https://www.cifas.org.uk/). Byddant yn rhoi nodyn ar eich ffeil credyd yn dweud y gallai eich hunaniaeth gael ei ddefnyddio'n anghyfreithlon
  • Rhowch wybod i Action Fraud, y ganolfan genedlaethol ar gyfer rhoi gwybod am dwyll a seiberdroseddu. Gallwch wneud hyn ar-lein drwy fynd i http://www.actionfraud.police.uk/report_fraud neu drwy ffonio 0300 123 2040
  • Rydym bob amser yma i helpu. Gallwch ein ffonio ni ar 101 neu 999 mewn argyfwng. Gallwch hefyd gysylltu â Connect Gwent, ein canolfan i ddioddefwyr ar 0300 123 21 33 neu drwy fynd i http://www.connectgwent.org.uk/